Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (67)v5 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) |
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (10 munud) |
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (5 munud)
|
4. Cynnig i ethol Aelod i’r Pwyllgor Busnes (1 munud)
NDM4994 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru). |
5. Datganiad gan y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru (60 munud) |
6. Dadl ar Araith y Frenhines (130 munud)
NDM4992 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2012/2013.
Rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (ar gael yn Saesneg yn
unig):
Dogfennau Ategol: Papur Gwasanaeth Ymchwil – Araith y Frenhines 2012 Gwybodaeth am y Mesurau Seneddol yn Araith y Frenhines a ddarparwyd gan Swyddfa Cymru, Mai 2012 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith nad yw’r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys unrhyw fesurau ystyrlon i gyflawni twf yn yr economi.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Ynni a fydd yn diwygio’r farchnad drydan er mwyn annog buddsoddiad mewn cynhyrchu carbon-isel ac ynni glân.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Rhoddion Bach a fydd yn galluogi elusennau bach i hawlio 25c yn ôl am bob £1 a roddir, hyd at £5,000.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Diwygio'r Banciau a fydd yn gwahanu gweithgareddau manwerthu’r banciau oddi wrth eu gweithgareddau buddsoddi.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU a’i hymrwymiad parhaus i:
a) lleihau’r diffyg a thrwy hynny sicrhau’r cyfraddau llog isaf erioed yn y Deyrnas Unedig, sydd o fudd i berchnogion tai ledled Cymru;
b) adfer sefydlogrwydd economaidd, gan greu cyfoeth i gynnal gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu Bil Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd a chreu swydd Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd. |
Cyfnod Pleidleisio
|
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM4993 Mick Antoniw (Pontypridd)
Plant sy’n Ceisio Lloches a sut y cânt eu hamddiffyn yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU yn llesteirio gallu Llywodraeth Cymru o ran plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Mae diogelu plant yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ond mae’r graddau y mae Llywodraeth y DU wedi dehongli ei chymhwysedd a gadwyd ar fewnfudo, sef trin unrhyw fater sy’n ymwneud â cheiswyr lloches, plant sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid fel mater a gadwyd yn ôl, yn cynnwys y meysydd hynny sy’n gymwyseddau a ddatganolwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynd yn groes, mewn sawl achos, i amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer dinasyddion Cymru: o ran hawliau plant, cydraddoldeb a gweithio tuag at gymdeithas deg a chynhwysol.
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 29 Mai 2012